Mae Jo Thomas (ganwyd 1972) yn gyfansoddwraig sy'n enedigol o Aberystwyth. Enillodd wobr Golden Nica (y prixs ars electronica) am ei gwaith mewn "celf sain a cherddoriaeth ddigidol"; teitl y gwaith oedd: Crystal Sounds of a Synchrotron.[1] Mae wedi perfformio gyda Maria Chavez, Lee Gamble, Phil Nimblock a SquarePusher.
Magwraeth a choleg
Magwyd Jo yn Aberystwyth cyn graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan barhau yno i nwued ei gradd Meistr. Oddi yno aeth i Brifysgol Dinas Llundain, lle cwbwlhaodd Ddoethuriaeth mewn Cyfansoddi electronig-acwstig yn 2005. Gweithiodd am 11 mlynedd yn Academia, ac mae'n parhau ei chysylltiad agos gyda Phrifysgol Bangor. Fe'i dylanwadwyd gan ei hymweliad â Chwmni Recordiau Sain, pan oedd yn ei harddegau a dylanwadwyd arni hefyd gan y cyfansoddwr John Pickard, a chyfansoddodd ei gwaith cyntaf yn dilyn hyn.
Gwaith
Bu Jo ar fyrddau llywio'r British Music Collection a'r Rhaglen Pathways lle roedd hefyd yn un o'r panel dewis. Mae'n sgwennu am y byd o'i chwmpas gan ganolbwyntio ar hawliau'r anabl, hawliau merched a hawliau dynol. Mae ganddi ei chwmni ei hun.