Pos sy'n cael ei ddatrys trwy osod a chysylltu darnau, fel arfer o feintiau neu siapiau amrywiol, yn y mannau cywir yw jig-so neu bos jig-so. Fel arfer, mae gan bob darn ran fach o'r darlun arno; unwaith mae'r jig-so wedi'i gwblhau, mae'n rhoi'r darlun llawn. Mae rhai mathau mwy cymhleth wedi'u cynhyrchu a'u gwerthu - rhai cronellog neu rai sy'n dangostwyll llygaid.
Byddai'r posau jig-so cyntaf yn cael eu creu trwy baentio llun ar ddarn o bren gwastad ac yna'r dorri'n ddarnau bach gyda herclif. Yr enw Saesneg ar y math hwnnw o lif, 'jig-saw', roddodd yr enw i'r math hwn o bos. John Spilsbury, ycartograffydd ac ysgythrwr o Lundain sy'n cael ei gydnabod am droi'r jig-so yn gynnyrch masnachol, a hynny o gwmpas y flwyddyn 1760.[1] O gardfwrdd mae'r rhan fwyaf o bosau jig-so yn cael eu creu erbyn hyn.
Mae'r mathau nodweddiadol o ddarluniau sy'n destun jig-so yn cynnwys golygfeydd o fyd natur, adeiladau, a dyluniadau ailadroddus. Mae cestyll a mynyddoedd yn ddau destun traddodiadol. Er hynny, gall unrhyw fath o ddarlun gael ei ddefnyddio i greu jog-so; mae rhai cwmniau yn cynnig troi ffotograffau personol yn bosau jig-so. Gall posau sydd wedi'u cwblhau gael eu gludo i rhywbeth a'u troi yn addurn neu eu fframio i'w harddangos.
Gellir hefyd brynu offer pwrpasol er mwyn storio neu hwyluso'r dasg o gyflawni pos jig-so, gan gynnwys byrddau, fframiau a matiau sy'n rolio.