Cyfarwyddwr ffilm a theledu Americanaidd yw Jennifer Lynch (ganwyd 7 Ebrill1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur. Mae'n ferch i'r gwneuthurwr ffilm David Lynch ac yn awdur y llyfryn The Secret Diary of Laura Palmer (990).[1][2][3][4]
Mae hi'n ferch i'r artist a'r gwneuthurwr ffilmiau David Lynch, sy'n tarddu o'r Ffindir[6], a'r arlunydd Peggy Reavey. Dechreuodd ymarfer Myfyrdod Trosgynnol yn chwech oed.[7] Graddiodd Lynch o'r Academi Gelf Interlochen lle astudiodd y celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol.
Yr awdur
Boxing Helena
Denodd sgript, a gomisiynwyd gan Lynch ar gyfer Boxing Helena, lawer o actoresau, gan gynnwys Madonna. Yn y pen draw, castiwyd Sherilyn Fenn, un o'r sêr yng nghyfres deledu ei thad Twin Peaks a'r ffilm Wild at Heart, fel y prif gymeriad Helena. Roedd Kim Basinger hefyd ynghlwm ac fe gafodd ei siwioar ôl ymddiswyddo o’r prosiect. Roedd y ddadl ynghylch yr achos hwnnw, yn ogystal â gwaedd gan ffeministiaid oherwydd testun sadistaidd Helena a chyhuddiadau o nepotistiaeth, yn cyd-fynd â beirniadaeth o'r ffilm wedi iddi gael ei rhyddhau ym 1993.
Surveillance
Yn dilyn cyfnod tawel eitha hir, dychwelodd Lynch i'r arena gyhoeddus gyda'r ffilm Surveillance (Gwyliadwriaeth) ac, ym mis Hydref 2008, enillodd Surveillance y brif wobr yn yr Festival de Cine de Sitges.[8] Fis yn ddiweddarach, Lynch oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gwobr Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Arswyd Dinas Efrog Newydd.[9]
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014