Jemima Niclas (hefyd Jemima Nicholas neu Jemima Fawr; c. 1750 – Gorffennaf 1832) oedd arwres Gymreig yn ystod Brwydr Abergwaun ar 22 Chwefror 1797.[1]
Yn 2006 yn swyddfa cofnodion Hwlffordd fe ganfodwyd gofnodion gan ddarlithydd coleg lleol, Andrew Thomas o Thornton, Aberdaugleddau, sydd yn dangos rhywun o'r enw Jemima Nicholas yn cael ei bedyddio ym mhlwyf Mathri ar 2 Mawrth 1755.[1]