James Frederick Crichton-Stuart |
---|
Ganwyd | 17 Chwefror 1824 |
---|
Bu farw | 24 Hydref 1891 |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig |
---|
Tad | Lord James Stuart |
---|
Mam | Hannah Tighe |
---|
Priod | Gertrude Frances Seymour |
---|
Plant | Constance Crichton-Stuart, Audrey Crichton-Stuart, Patrick James Crichton-Stuart, Dudley Crichton-Stuart |
---|
Roedd James Frederick Dudley Crichton-Stuart (17 Chwefror 1824 – 24 Hydref 1891) yn filwr Prydeinig ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caerdydd rhwng 1857 a 1880
Cefndir
Ganwyd Crichton-Stuart yn Llundain yn fab i’r Arglwydd Patrick Crichton-Stuart a’i wraig Hannah merch William Tigh Arglwydd Raglaw Kilkenny. Gwasanaethodd ei dad fel AS Caerdydd ar ddau achlysur rhwng 1826 a 1832.
Priododd Gertrude Frances merch Sir George Hamilton Seymour ym 1864 [1]. Bu iddynt bedwar o blant.
Roedd teulu Crichton-Stuart yn ddisgynyddion o Robert II, brenin yr Alban [2].
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt[3]
Tra’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt bu’n rasio ceffyl yn erbyn cyd fyfyriwr a chyfaill iddo, John Nichol Luxmoore, mab Esgob Llanelwy. O herwydd natur gwyllt y ras syrthiodd Luxmoore oddi ar ei geffyl, gan gael ei ladd.[4]
Gyrfa
Wedi ymadael ar brifysgol ymunodd â Gwarchodlu'r Grenadwyr gan ymddeol o’r gatrawd ym 1862 yn Is-gyrnol.[5]
Gyrfa wleidyddol
Ym 1857 penderfynodd AS Rhyddfrydol Caerdydd Walter Coffin i ymddeol o’r Senedd. Dewiswyd Crichton-Stuart gan Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ei ddarpar olynydd. Llwyddodd i gadw’r sedd i’r Rhyddfrydwyr hyd ei ymneilltuad o’r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1880. Yn ystod ei gyfnod fel AS ni ynganodd air ar lawr Tŷ’r Cyffredin o blaid nac yn erbyn unrhyw bwnc, ond fe bleidleisiodd yn driw i’r achos Rhyddfrydol. Awgrymwyd yn y wasg ei fod wedi ymneilltuo o’r Senedd gan nad oedd am bleidleisio gyda’r Rhyddfrydwyr ar achos rheolaeth gartref i’r Iwerddon ond dim yn ddigon dewr i bleidleisio nac areithio yn erbyn polisi ei blaid[5].
Marwolaeth
Bu farw yn 67 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol