Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw James Chester (ganwyd James Grant Chester 23 Ionawr 1989). Mae'n chwarae i West Bromwich Albion F.C. a thîm cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd ei yrfa gydag Academi Manchester United a gwnaeth ei unig ymddangosiad i'r tîm cyntaf fel eilydd yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Derby County yn 2009[2].
Wedi cyfnodau ar fenthyg gyda Peterborough United, Plymouth Argyle a Carlisle United symudodd Chester i Hull City yn Ionawr 2011 am ffi o £300,000[3].
Sgoriodd y gôl agoriadol i Hull City yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym Mai 2014, ond colli 3-2 yn erbyn Arsenal oedd hanes y Tigers[4].
Ym Mai 2014, cyhoeddodd Chester ei fod eisiau chwarae dros Gymru - roedd yn gymwys gan bod ei fam yn dod o'r Rhyl[5] a cafodd ei gap cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin, 2014.
Cyfeiriadau