Jair Bolsonaro

Jair Bolsonaro
GanwydJair Messias Bolsonaro Edit this on Wikidata
21 Mawrth 1955 Edit this on Wikidata
Glicério Edit this on Wikidata
Man preswylOrlando, Angra dos Reis, Rio de Janeiro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academia Militar das Agulhas Negras Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, thief Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Brasil, federal deputy of Rio de Janeiro, councillor of Rio de Janeiro, Mercosur Pro Tempore Presidency, President-elect of Brazil Edit this on Wikidata
Taldra1.85 metr Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluyr Eidal Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolChristian Democratic Party, Progressive Party, Reform Progressive Party, Progressive Party, Brazilian Labour Party, Liberal Front Party, Progressive Party, Social Christian Party, Social Liberal Party, Alliance For Brazil, Liberal Party Edit this on Wikidata
TadPercy Geraldo Bolsonaro Edit this on Wikidata
PriodRogéria Bolsonaro, Ana Cristina Valle, Michelle Bolsonaro Edit this on Wikidata
PlantFlávio Bolsonaro, Carlos Bolsonaro, Eduardo Bolsonaro, Renan Bolsonaro, Laura Bolsonaro Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Ig Nobel, Corrupt Person of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o Frasil a chyn-gapten ym Myddin Brasil yw Jair Messias Bolsonaro (ganwyd 21 Mawrth 1955) a fu'n Arlywydd Brasil o 2019 i 2022. Fe wasanaethodd yn ddirprwy ffederal dros dalaith Rio de Janeiro yn Siambr y Dirprwyon am saith tymor, o 1991 i 2018, ac yn aelod o sawl plaid wahanol yn y cyfnod hynny.

Graddiodd o Academi Filwrol Agulhas Negras ym 1977 a gwasanaethodd yn adrannau'r gynnau maes a'r awyrfilwyr ym Myddin Brasil. Daeth i sylw'r cyhoedd ym 1986, pan ysgrifennodd erthygl ar gyfer y cylchgrawn Veja yn beirniadu'r cyflogau a dderbynir gan swyddogion milwrol am fod yn rhy isel. Oherwydd hyn cafodd ei arestio a'i gadw am bymtheg diwrnod, er iddo dderbyn nifer o lythyrau o gefnogaeth gan ei gyd-swyddogion. Cafodd ei ryddfarnu ddwyflwydd yn ddiweddarach.

Ymunodd Bolsonaro â'r lluoedd wrth gefn yn 1988, ar reng capten, er mwyn iddo ymgeisio am sedd yn Siambr Ddinesig Rio de Janeiro. Cafodd ei ethol yn gynghorydd dros y Blaid Ddemocrataidd Gristnogol. Gadawodd y blaid honno ym 1993. Yn 1990, cafodd ei ethol yn gyngreswr dros dalaith Rio de Janeiro. Er iddo dderbyn dim ond 6% o'r pleidleisiau, efe oedd yr ymgeisydd â'r gyfran fwyaf o gefnogaeth. Cafodd ei ail-ethol chwe gwaith, gan wasanaethu yn Siambr y Dirprwyon am 27 mlynedd. Daeth yn wleidydd amlwg a dadleuol o ganlyniad i'w farnau gwleidyddol a fe'i beirniadir am fod yn boblydd ac yn eithafol-dde, gan gynnwys ei gydymdeimlad ag unbennaeth milwrol Brasil (1964–85) a'i amddiffyniad o'r arfer o artaith gan y llywodraeth honno.

Datganodd Bolsonaro ei fwriad i fod yn ymgeisydd y Blaid Gymdeithasol Gristnogol am yr arlywyddiaeth ym Mawrth 2016. Yn Ionawr 2018, fodd bynnag, fe gyhoeddodd ei fod wedi ymaelodi â'r Blair Ryddfrydol Gymdeithasol (PSL), y nawfed blaid iddo gynrychioli yn ei yrfa wleidyddol ers etholwyd ef yn gynghorwr yn 1988. Cychwynnodd ar ei ymgyrch arlywyddol yn swyddogol yn Awst 2018, a'r cyn-gadfridog Hamilton Mourão yn ymgeisydd am yr is-arlywyddiaeth. Un o brif nodweddion yr ymgyrch oedd i bortreadu Bolsonaro fel yr un i amddiffyn gwerthoedd teuluol. Ar 7 Hydref, Bolsonaro a dderbynai'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn rownd gyntaf yr etholiad arlywyddol, a Fernando Haddad, ymgeisydd Plaid y Gweithwyr (PT), yn ail. Etholwyd Bolsonaro yn Llywydd y Weriniaeth yn yr ail rownd ar 28 Hydref, gyda 55.13% o'r holl bleidleisiau dilys.[1] Cafodd ei urddo'n arlywydd ar 1 Ionawr 2019.[2]

Ar ddechrau argyfwng COVID-19, dywedodd fod y feirws yn "ddim gwaeth na'r ffliw" a mynnu bod ei gefndir fel athletwr yn ei warchod rhag y feirws. Cafodd prawf bositif am y feirws ar 7 Gorffennaf 2020 wedi iddo gael symptomau.[3]

Bolsonaro yw'r arlywydd cyntaf yn hanes Brasil i golli ymgyrch i'w ail-ethol, a hynny ar 30 Hydref 2022 i'r cyn-arlywydd Luiz Inácio Lula da Silva.[4] Teithiodd Bolsonaro i Unol Daleithiau America ar 30 Rhagfyr, diwrnod olaf ond un ei dymor yn y swydd, a fe'i olynwyd yn arlywydd gan Lula ar 1 Ionawr 2023.

Bywyd cynnar (1955–77)

Ganed Jair Messias Bolsonaro ar 21 Mawrth 1955 yn Glicério, yn nhalaith São Paulo, yn ystod cyfnod Pedwaredd Weriniaeth Brasil, yn fab i Percy Geraldo "Gerardo" ac Olinda Bolsonaro, a oedd o dras Eidalaidd yn bennaf. Fe'i enwyd ar ôl Jair Rosa Pinto, pêl-droediwr canol maes ac un o dîm cenedlaethol Brasil yng Nghwpan y Byd 1954.[5] Ymsefydlodd y teulu yn Eldorado, São Paulo, tref fechan yng Nghoedwig yr Iwerydd, a gweithiodd Gerardo fel deintydd heb gymhwyster, ac wedi i ddeintyddion proffesiynol symud i'r dref fe newidiodd i faes prostheteg.[6] Cafodd Jair a'i ddau frawd a thair chwaer eu magu mewn amodau tlawd.[7]

Ym 1973, aeth Jair yn gadét i Ysgol Baratoi'r Fyddin yn Campinas, São Paulo. Wedi iddo lwyddo yn ei arholiadau terfynol, fe'i derbyniwyd ym 1974 i Academi Filwrol Agulhas Negras—y brif ysgol i hyfforddi swyddogion Byddin Brasil—yn Resende, yn nhalaith Rio de Janeiro.

Gyrfa filwrol (1977–88)

Wedi tair blynedd o hyfforddiant milwrol, graddiodd Bolsonaro o Academi Filwrol Agulhas Negras ym 1977 fel capten magnelau, a chychwynnodd ar yrfa o 17 mlynedd yn y fyddin, yr 11 mlynedd gyntaf mewn gwasanaeth arfog a diwedd ei yrfa wrth gefn.

Cyfeiriadau

  1. "Ethol ymgeisydd asgell-dde yn arlywydd newydd Brasil", Golwg360 (29 Hydref 2018). Adalwyd ar 18 Awst 2019.
  2. "Jair Bolsonaro yn tyngu llw fel arlywydd “dwrn dur” newydd Brasil", Golwg360 (2 Ionawr 2019). Adalwyd ar 18 Awst 2019.
  3. Arlywydd Brasil yn profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws , Golwg360, 7 Gorffennaf 2020.
  4. (Portiwgaleg) "Bolsonaro é 1º presidente a perder reeleição e deixará cargo em 31 de dezembro", Folha de S.Paulo (30 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 31 Hydref 2022.
  5. Richard Lapper, Beef, Bible and Bullets: Brazil in the Age of Bolsonaro (Manceinion: Manchester University Press, 2021), t. 21.
  6. (Saesneg) Jair Bolsonaro. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Ionawr 2023.
  7. Lapper, Beef, Bible and Bullets (2021), t. 22.