Cyfreithegwr ac ysgolhaig clasurol o Ffrainc oedd Jacques Cujas (Lladin: Jacobus Cujacius; 1522 – 4 Hydref 1590) sydd yn nodedig am ei astudiaethau o'r gyfraith Rufeinig.
Ganed ef yn Toulouse, Teyrnas Ffrainc, ac yno astudiodd y gyfraith. Bu'n athro ym mhrifysgolion Toulouse, Valence, a Bourges, gan ennill enw ar draws Ewrop, ac ymhlith ei ddisgyblion oedd Joseph Justus Scaliger a Pierre Pithou. Bu farw Jacques Cujas yn Bourges.[1]
Cyfreithiau Iwstinian oedd maes arbenigol Cujas. Cesglid yn ei Paratitla wirebau byrion ac eglur o Grynhoad a Chôd Iwstinian sydd yn cyfleu egwyddorion sylfaenol y gyfraith Rufeinig. Cyflawnodd Cujas hefyd argraffiad o Gôd Theodosiws. Cyhoeddwyd argraffiad llawn o weithiau Cujas, mewn deg cyfrol, gan Charles Annibal Fabrot ym 1658.
Cyfeiriadau