Arweinydd corawl Cymreig-Canadaidd oedd Iwan Edwards CM (5 Hydref1937 – 4 Mawrth2022). Dros deugain mlynedd sefydlodd ac arweiniodd nifer o gorau. Roedd e'n Aelod o Urdd Canada ers 1995. [1]
Cafodd Edwards ei eni yng Nghymru.[2] Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, a graddiodd ym 1961. Gadawodd Edwards Gymru yn 1965 ac symud i Ganada lle roedd e'n byw ym Montréal.[2] Roedd Edwards yn briod ag Undeg. Gyda'i gilydd, bu iddynt ddau o blant.[3]
Roedd Edwards yn arweinydd gwadd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Canada ym 1998-1999. Daeth yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Arweinydd Côr Siambr Canada.[4]
Bu farw Edwards fore 4 Mawrth 2022, yn ei gartref yn Lachine, Canada, yn 84 oed.[2][5]