Milwr o Gymro oedd Ivor Rees VC (18 Hydref 1893 – 11 Mawrth 1967). Derbyniodd Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.
Cefndir
Ganwyd Rees yn Felinfoel ar 18 Hydref 1893 y pumed o saith o blant i David ac Anne Rees[1]. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio yng Waith Dur, Llanelli hyd nes i'r Rhyfel Mawr gychwyn pan ymunodd Rees â'r 11eg Bn. Cyffinwyr De Cymru ar 9 Tachwedd 1914.
Roedd y Cyffinwyr yn rhan o 38in Adran (Gymreig) y Fyddin fu'n brwydro yn Mametz Wood cyn symud i Ypres, lle roeddent yn rhan o'r frwydr i geisio cipio Crib Pilckem yn Nhrydedd Brwydr Ypres.
Dyfarniad y VC
Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:
Ar 31 Gorffennaf 1917 yn Pilckem, Gwlad Belg, roedd dryll peiriannol yn achosi nifer o golledion. Llwyddodd Sarjant Rees i arwain ei blatŵn yn raddol o amgylch yr adain dde tuag at gefn safle'r dryll. Pan roedd 20 llath o'r dryll, brysiodd Sarjant Rees tuag ato gan saethu un o'r milwyr a thrywanu'r llall gyda'i fidog. Llwyddodd i fomio safle concrit gan ladd pump o'r gelyn a chymnryd 30 o garcharorion, gan gynnwys dau swyddog a chipio dryll peiriannol.
— London Gazette, 14 Medi 1917
[2]
Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru yn Aberhonddu, Powys
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i Lanelli ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn Uwch-ringyll yn y Gwarchodlu Cartref (2il Bataliwn Sir Gaerfyrddin). Bu farw yn Llanelli ar 12 Mawrth 1967.
Cyfeiriadau