Is Nyfer

Map o deyrnas Dyfed yn dangos lleoliad Is Nyfer yng nghantref Cemais (gwyrdd tywyll, rhan uchaf)

Un o ddau gwmwd cantref Cemais yn nheyrnasoedd Dyfed a Deheubarth yn yr Oesoedd Canol oedd Is Nyfer. Fe'i lleolir ar lan Bae Ceredigion yng ngogledd-ddwyrain y Sir Benfro bresennol i'r dwyrain o fynyddoedd Y Preseli.

Dynodai Afon Nyfer y ffin o fewn cantref Cemais rhwng Is Nyfer a'r ail gwmwd, Uwch Nyfer. Gorweddai cwmwd annibynnol Emlyn i'r dwyrain.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.