Ieuan Roberts
Ymgyrchydd iaith o Rosllannerchrugog oedd Ieuan Roberts, a elwir hefyd yn Ieu Rhos (16 Ionawr 1950 – 15 Awst 2016).[1][2][3] Ganwyd Ieuan Wynn Roberts yn fab i Mair a Tom Roberts. Aeth i astudio ym Prifysgol Abertawe ar ddiwedd y 1960au lle roedd John Davies yn ddarlithydd hanes Cymru iddo. Yn ystod y cyfnod hwn daeth yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cafodd ei ddal yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffyrdd a wedi gwrthod talu'r ddirwy a osodwyd arno, fe'i carcharwyd am gyfnod. Wedi gadael y coleg symudodd i Aberystwyth i weithio fel ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith ar y cyd gydag Arfon Gwilym.[4] Ym Mehefin 1972, fel rhan o'r ymgyrch am sianel deledu Cymraeg, roedd yn un o naw ymgyrchydd a feddiannodd adran weinyddol y BBC a chael ei arestio a'i gyhuddo am fod ag offer yn eu meddiant ar gyfer gwneud trosedd difrifol. Yn yr Old Bailey yn Llundain, blwyddyn yn diweddarach, cafodd y cyhuddiad ei israddio i un o gynllwyn ond cafwyd y naw yn ddieuog a thaflwyd yr achos allan.[5][6] Yn Rhosllannerchrugog, bu’n gweithio fel gyrrwr bws, ac roedd ynghlwm â sefydlu’r papur bro Nene yn 1978. Fe gyhoeddwyd Ieu Rhos - Y Geiriwr Garw A'r Galon Feddal, llyfr o atgofion o fywyd Ieuan Roberts a olygwyd gan y newyddiadurwr Arthur Thomas, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2017. Cyfeiriadau
Information related to Ieuan Roberts |