Mae'r erthygl hon yn sôn am yr offeryn amaethyddol. Am ddefnyddiau eraill, gweler Iau (gwahaniaethu).
Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr iau i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu'r baich ar draws ysgwyddau'r anifeiliaid.
Defnyddir ieuau ar geffylau weithiau ond ar ychain y'i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw'r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.
Llyfryddiaeth
F. G. Payne, Yr Aradr Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954)