Roedd Arthur Ian Lavender (16 Chwefror1946 – 2 Chwefror2024) yn actor Seisnig. Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei rol fel Frank Pike yn y gyfres teledu Dad's Army. Cafodd Lavender ei eni yn Birmingham. [1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Dechnegol Bechgyn Bournville, lle ymddangosodd mewn llawer o gynyrchiadau dramatig ysgol. Aeth i'r Ysgol Theatr Old Vic Bryste, gyda chymorth o Ddinas Birmingham. [2] Priododd â Suzanne Kerchiss. Bu iddynt ddau fab, ond ysgarasant yn ddiweddarach. Wedyn priododd â Miki (Michele) Hardy.[3]
Ymddangosodd Lavender hefyd yn yr opera sebon Eastenders o 2001 hyd 2016, gan chwarae rhan Derek Harkinson.[4]
Bu farw Lavender yn 77 oed, ar ôl goroesi canser a thrawiad ar y galon.[3]
Cyfeiriadau
↑GRO Register of Births: MAR 1946 6d 813 BIRMINGHAM – Arthur I. Lavender, mmn = Johnson