Iaith ddadelfennol

Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas â geiriau eraill yw iaith ddadelfennol neu iaith analytig. Mewn ieithoedd dadelfennol mae'r morffemau yn rhydd, hynny yw, mae pob morffem yn air ar wahân.

Enghreifftiau

Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwneir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair ar iaith. Hynny yw, geiriau wedi'u cyfansoddi o un morffem sy'n dueddol o fod gan ieithoedd dadelfennol. Mae unrhyw iaith sydd â chymhareb forffem-y-gair mwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:

  • Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb forffem-y-gair o 1:1.
  • Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn gymhareb forffem-y-gair o 3:1.

Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Tsieineeg a'r iaith Thai yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Tsieineeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach, mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft, yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar gystrawen i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a'r gwrthrych:

明天 朋友 生日 蛋糕
明天 朋友 生日 蛋糕
míngtīan de péngyou huì wèi zuò ge shēngri dàn'gāo
yfory fi (geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (bannod) (dosbarthydd geiriau) pen-blwydd teisen
‘Yfory bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen ben-blwydd imi.’

Gellir dweud bod dim morffoleg ffurfdroadol gan ieithoedd dadelfennol.

Gweler hefyd