Cyfrol am hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg yw Iaith Carreg fy Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, a olygwyd gan Geraint H. Jenkins.
Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1998. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
Mae'r llyfr, a oedd yn gyfrol yng nghyfres Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg (1997–2000), yn cynnwys pedair pennod ar ddeg a llu o fapiau a ffigurau esboniadol.
- W. T. R. Pryce, "Ardaloedd Iaith yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru c.1800–1911"
- David Llewelyn Jones, "Yr Iaith Gymraeg yn Sir Drefaldwyn c.1800-1914"
- Russell Davies, "Iaith a Chymuned yn Ne-Orllewin Cymru c.1800–1914"
- Ioan Matthews, 'Yr Iaith Gymraeg yn y Maes Glo Carreg c.1870–1914"
- Philip N. Jones, "Y Gymraeg yng Nghymoedd Morgannwg c.1800–1914"
- Owen John Thomas, Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c. 1800-1914"
- Sian Rhiannon Williams, "Y Gymraeg yn y Sir Fynwy Ddiwydiannol c.1800–1901"
- Emrys Jones, "Yr Iaith Gymraeg yn Lloegr c.1800-1914"
- William D. Jones, "Y Gymraeg a Hunaniaeth Gymreig mewn Cymuned ym Mhennsylvania "
- Robert Owen Jones, "Yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa"
- Charles W. J. Withers, "Hanes Cymdeithasol a Daearyddiaeth yr Aeleg 1806–1901"
- Máirtin Ó Murchú, "Iaith a Chymdeithas yn Iwerddon yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg"
- Rhisiart Hincks, "Y Llydaweg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg"
- R. J. W. Evans, "Iaith a Chymdeithas yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: Rhai Cymariaethau yng Nghanol Ewrop"
Cyfieithiad
Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o'r gyfrol gan Gwasg Prifysgol Cymru fel The Welsh Language Before the Industrial Revolution yn yr un flwyddyn (1997).
Gweler hefyd
Cyfeiriadau