Cyn bêl-droediwr Cymreig oedd Hugh Morgan-Owen (1882 – 6 Mawrth 1953). Llwyddodd i ennill 5 cap dros Gymru rhwng 1900 a 1907 ac roedd yn aelod o glwb pêl-droed amatur Corinthian.
Bywyd Cynnar
Cafodd Morgan-Owen ei eni yn Y Rhyl y pedwerydd o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox.[1] Cafodd ei addysg yn Ysgol Amwythig a Choleg Hertford, Rhydychen gan gynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Rhydychen yn eu gêm flynyddol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar dair achlysur - ym 1902, 1903 a 1904.[2] Roedd yn frawd i Morgan Maddox Morgan-Owen.
Gyrfa Bêl-droed
Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1900 yn erbyn Lloegr tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog Corinthian ac i'r Trallwng.
Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr, penderfynnodd Morgan-Owen, a'i frawd Morgan Maddox Morgan-Owen, oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, i chwarae i dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn.[3][4][5]
Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i Baris ym 1908 gyda'i frawd, Morgan.[6]
Nigeria
Ym 1909, ymunodd Morgan-Owen â Gwasanaeth Sifil Nigeria gan ddod yn Gomisiynydd Rhanbarthol ym 1925 hyd nes ei ymddeoliad ym 1931.[3][7]
Bu farw yn Repton, Swydd Derby ar 6 Mawrth 1953.
Cyfeiriadau