Bardd, golygydd a chyfieithydd Cymreig o'r 18g a gysylltir â chylch llenyddol Morysiaid Môn oedd Hugh Hughes neu Y Bardd Coch o Fôn (weithiau hefyd Huw ap Huw neu Huw Huws neu Y Bardd Coch) (22 Mawrth 1693 – 6 Ebrill 1776).
Bywgraffiad
Ganed Hugh Hughes yn Llwydiarth Esgob ym mhlwyf Llandyfrydog, ger Llannerch-y-medd, Môn yn 1693.[1]
Dechreuodd farddoni yn ifanc a daeth i sylw Lewis Morris a'i frodyr. Daeth yn aelod gohebol o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[1]
Gwaith llenyddol
Ceir detholiad o rai o'i gerddi yn y cyfrolau Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759), Diddanwch Teuluaidd (1763) a Diddanwch i'w Feddianydd (1773). Mae'n enwog am ei gywydd annerch i Goronwy Owen a symbylodd y bardd hwnnw i gyfansoddi un o'i gerddi mwyaf adnabyddus, 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch', sy'n folawd i Ynys Môn.[1]
Cyfieithodd y Bardd Coch ddau lyfr i'r Gymraeg, ar bynciau moesol.[1]
Llyfryddiaeth
Blodeugerddi'r 18fed ganrif
Cyhoeddwyd peth o waith y bardd yn:
Llawysgrifau
Mae eraill o'i gerddi yn aros yn y llawysgrifau neu ar gael yma ac acw yn almanaciau'r cyfnod.
Mae llyfr yn llawysgrifen Y Bardd Coch ei hun sef 'Llyfr Melyn Tyfrydog' nawr yn nwylo Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cafodd ei atgyweiro gan y llyfrgell ac mae bellach ar gael i'w ddarllen ac ystudio yno; mae'n cynnwys cerddi, nodiadau, carolau plygain ac ymchwiliaeth helaeth i deuluoedd yr ardal yn ogystal â theulu'r Bardd Coch ei hun.[angen ffynhonnell]
Detholiadau diweddar
- D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1938). 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch'.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1938). Nodyn ar fywyd y bardd.