Awdur llyfrau plant Cymraeg oedd Hugh Brython Hughes (8 Ebrill 1848 – 24 Gorffennaf 1913), a gyhoeddai wrth yr enw H. Brython Hughes. Cyhoeddodd nifer o straeon, cerddi a thestunau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc ar droad yr 20g.
Bywgraffiad
Ganed Hughes ym mhentref Tregarth, ger Bangor yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) yn 1848, yn unig fab y llenor Hugh Derfel Hughes. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac ar ôl graddio bu'n gweithio fel athro ysgol yn Walsall, Abercain, Gwalchmai, Y Bala a Llaneilian. Bu farw yn Aberystwyth yn 1913.
Gwaith llenyddol
Bu'n gyfranwr cyson i gylchgronau Cymraeg, yn enwedig Cymru'r Plant, cylchgrawn O. M. Edwards. Cyhoeddodd sawl llyfr o gyfieithiadau o chwedlau gwerin, yn cynnwys Rhamant Plât y Pren Helyg o Tsieina a fersiwn o ddamhegion Aesop. Mae llawer o'i gyfieithiadau o chwedlau gwerin yn aros heb ei gyhoeddi. Ysgrifennodd nifer o straeon gwreiddiol hefyd, yn arddull rhamantaidd y cyfnod, a fwriedid yn bennaf fel llyfrau i ddysgu darllen Cymraeg i blant.
Ystyrir bod gwaith H. Brython Hughes yn pontio'r cyfnod rhwng llenyddiaeth plant foesol y 19g a llenyddiaeth fwy anturus yr 20g. Mae'r rhan fwyaf o'i gyfrolau yn ddarlunedig gan arlunwyr Cymreig cyfoes fel Downing Williams a T. Prytherch ac yn llyfrau deniadol.
Llyfryddiaeth ddethol
Gwaith H. Brython Hughes
- Tlysau Ynys Prydain (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1902). Seiliedig ar y rhestr o Dri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain chwedlonol.
- Ystorïwr y Plant (Cyfres y Ffynnon Loew, 1908)
- Damhegion Aesop (Hughes a'i Fab, 1908)
- Brenin yr Afon Aur (Gwasg Gee, 1908). Cyfieithiad o stori gan John Ruskin
- Tair Cwpan Aur (Gwasg Gee, Dinbych, 1909)
- Melin Law y Tylwyth Teg (Caernarfon, d.d.)
- Rhamant Plât y Pren Helyg (1916). Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.
Sawl cyfrol yn y gyfres Cyfres y Brython (1909-13)
Llyfryddiaeth
Gwynn Jones, 'Hugh Brython Hughes', yn Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983)