Rhaglen deledu Americanaidd yw Heroes.
Crynodeb
Mae plot Heroes wedi cael ei chynllunio i efelychu straeon llyfrau comic, lle mae is-linynnau storïol yn cydblethu er mwyn creu prif linyn stori y gyfres gyfan. Cynlluniwyd pob cyfres o Heroes er mwyn cyflwyno cymeriadau newydd sy'n darganfod fod ganddynt bŵerau goruwchnaturiol a sut y mae'r galluoedd hyn yn effeithio a dylanwadu ar fywyd y cymeriad hynny.