Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn

Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn
Ganwyd16 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 1905 Edit this on Wikidata
Monte-Carlo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdawnsiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadHenry Paget, 4th Marquess of Anglesey Edit this on Wikidata
MamBlanche Mary Boyd Edit this on Wikidata
PriodLilian Paget, Marchioness of Anglesey Edit this on Wikidata

Arglwydd etifeddol oedd Henry Cyril Paget, 5ed Ardalydd Môn (16 Mehefin 1875 - 14 Mawrth 1905). Un o gartrefi'r teulu oedd y plasdy enfawr Plas Newydd ar Ynys Môn.

Yn ystod ei fywyd byr heriodd syniadau Edwardaidd am ddosbarth cymdeithasol, rhywedd a moesgarwch.

Fe'i cofir fel "The Dancing Duke". Mae steil Paget yn aml wedi'i gymharu a steil y seren roc Freddie Mercury.

Bywyd

Mynychodd Ysgol Eton a gwasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Ar farwolaeth ei dad yn 1898, etifeddodd ei deitl ac ystadau’r teulu gyda thua 30,000 erw (120 km2) yn Swydd Stafford, Dorset, Môn, a Swydd Derby, gyda'r incwm blynyddol o £110,000 (cyfwerth â £13 miliwn y flwyddyn yn 2021).

Mae yn cael ei gofio'n bennaf am wastraffu ei etifeddiaeth drwy wario ar fywyd cymdeithasol cyffrous a phrynu dillad a gemwaith drudfawr ac am gynnal partïon grand a pherfformiadau theatrig dros ben lleisri. Ail-enwyd Plas Newydd yn "Anglesey Castle" a newidiodd y capel yno yn theatr 150 sedd o'r enw Theatr Gaiety. Yma cymerodd y brif ran mewn gwisg odidog,

Priododd ei gyfnither Lilian yn 1898 ond fe'i adawodd hi ar ôl dim ond chwe wythnos gan ofyn am ysgariad ychydig wedyn.

Rhywioldeb

Henry Paget, 5ed Ardalydd Môn

Mae ffordd o fyw lliwgar Paget, ei chwaeth at groeswisgo a chwalfa ei briodas, wedi arwain llawer i dybio ei fod yn hoyw.

Ysgrifennodd Norena Shopland “nad oes fawr o amheuaeth bod yn rhaid cynnwys Henry yn hanes hunaniaeth rhywedd." Ond nid oes unrhyw dystiolaeth o blaid nac yn erbyn ei fod wedi cael unrhyw gariadon o’r naill ryw na’r llall. [1]

Mae’r hanesydd perfformiad Viv Gardner yn credu yn hytrach ei fod yn "narsisydd clasurol: yr unig berson y gallai ei garu oedd ei hun, am ba reswm bynnag". [2]

Mae'r dinistr bwriadol gan ei deulu o'r rhai o'i bapurau, a allai fod wedi setlo'r cwesitiwn ei rywioldeb, wedi gadael unrhyw asesiad yn ddamcaniaethol. Yn ôl Christopher Sykes, nid oedd ganddo perthynas rhywiol gyda'i wraig, a adawodd ar ôl dim ond chwe wythnos. [3]

Trafferth ariannol a marwolaeth

Erbyn 1904, er gwaethaf ei etifeddiaeth a'i incwm, roedd Paget wedi hel dyledion o £544,000 (£60 miliwn yn 2021) fe'i cyhoeddwyd yn fethdalwr.

Cynhaliwyd cyfres o ocsiwnau a gwerthwyd ei ddillad moethus, tlysau, dodrefn a llawer o'i eiddo araill i dalu credydwyr, gyda'r tlysau yn unig yn dod i £80,000.

Ym 1905, bu farw Paget yn Monte Carlo yn dilyn salwch hir, gyda'i gyn-wraig wrth ei ochr. Dychwelwyd ei weddillion i Eglwys Sant Edwen, Llanedwen, ar stad Plas Newydd ym Môn, i'w claddu.

Trosglwyddwyd y teitl i'w gefnder Charles Henry Alexander Paget, a ddinistriodd holl bapurau'r 5ed Ardalydd ac a drawsnewidiodd Theatr y Gaiety, roedd wedi adeiladu ym Mhlas Newydd, yn gapel.

O leiaf yn rhannol oherwydd y dyledion y 5ed Ardalydd, roedd rhaid chwalu prif stad y teulu yn Beaudesert, Swydd Stafford, a'i gwerthu yn y 1930au. Symudodd y teulu Paget i Blas Newydd fel eu cartref parhaol.

Arhosodd Plas Newydd ym meddiant y teulu Paget tan 1976, pan gafodd ei roi i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Heddiw mae'r tŷ a'r gerddi ar agor i'r cyhoedd, ac mae'r tŷ yn cynnwys nifer o ffotograffau o'r 5ed Ardalydd mewn gwisg theatrig. [4]

Cyfeiriadau

  1. Shopland, Norena (2017). "The Butterfly Dancer". Forbidden Lives: lesbian, gay, bisexual and transgender stories from Wales. Seren Books. ISBN 9781781724101.
  2. Gardner, Viv (10 October 2007). "Would you trust this man with your fortune?". The Guardian.
  3. Christopher Sykes, The Aristocracy: Born to Rule 1875–1945, BBC, first broadcast 29 January 1997.
  4. https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/plas-newydd-house-and-garden/people-and-history-at-plas-newydd