Hen ŵr y lleuad

Dehongliadau posibl o Hen ŵr y lleuad
Lleuad sydd bron yn llawn dros Berlin, yn yr Almaen, tua hanner awr ar ol codiad lleuad
Dehongliad cyffredin o hen ŵr y lleuad fel y gwelir ef o Hemisffer y Gogledd

Mae Hen ŵr y lleuad, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y dyn yn y lleuad, dyn [bach] y lleuad a Rhys Llwyd y Lleuad, yn cyfeirio at ddelweddau pareidolig o wyneb, pen neu gorff dynol y mae rhai traddodiadau yn eu hadnabod yng nghylch y lleuad lawn. Mae'r delweddau wedi'u cyfansoddi o ardaloedd tywyll y maria lleuadol , neu "foroedd" a'r ucheldiroedd golau ar wyneb y lleuad.

Enghreifftiau o gwmpas y byd

Mae un hen draddodiad Ewropeaidd yn gweld gŵr yn cario baich trwm ar ei gefn. Mae weithiau yn cael ei weld gyda chi bach yn gwmni iddo. Mae gwahanol ddiwylliannau yn adnabod enghreifftiau eraill o pareidolia lleuadol, fel Cwningen y lleuad. Yng ngolwg y gorllewin, llygaid y wyneb yw'r Mare Imbrium a Mare Serenitatis, ei drwyn yw Sinus Aestuum, a'i geg agored yw Mare Nubium a Mare Cognitum. Gellir gweld y wyneb dynol penodol hwn hefyd o'r rhanbarthau trofannol ar ddwy ochr y cyhydedd. Gall "hen ŵr y lleuad" hefyd gyfeirio at gymeriad mytholegol sy'n byw ar neu yn y lleuad, ond nad yw wedi'i gynrychioli o reidrwydd gan y marciau ar wyneb y lleuad. Enghraifft o hyn yw Yue-Laou, o draddodiad Tsieineaidd.

Straeon am ei darddiad

Mae amryw o esboniadau ynghylch sut y daeth hen ŵr y lleuad i fod.

Mae hen draddodiad Ewropeaidd am ddyn a gafodd ei ddiarddel i'r lleuad am gyflawni trosedd. Yn ol traddodiad Cristnogol, ef yw'r dyn a gafodd ei ddal yn casglu brigau ar y Saboth ac a ddedfrydwyd i farwolaeth gan Dduw trwy labyddio yn llyfr Numeri XV.32-36.[1] Mae rhai diwylliannau Germanaidd yn meddwl amdano fel dyn gafodd ei ddal yn dwyn o glawdd ei gymydog i gywiro'i un ei hun. Mae hefyd chwedl Rufeinig ei fod yn lleidr defaid.

Mae traddodiad Cristnogol arall o'r canoloesoedd yn honni mai ef yw Cain, y Crwydrwr, sydd i droi o amgylch y ddaear yn dragwyddol. Mae'r Inferno gan Dante yn cyfeirio at hyn.

Mae hefyd draddodiad Talmudaidd bod delwedd Jacob wedi'i ysgrythru ar y lleuad,[2] er nad oes cyfeiriad at hynny yn y Torah.[1][3]

Mewn mytholeg Llychlynnaidd, Máni yw personoliad gwrywaidd y lleuad sy'n croesi'r awyr mewn cerbyd sy'n cael ei dynnu gan geffylau. Mae'n cael ei ddilyn gan y Blaidd Mawr Hati sy'n ei ddal yn Ragnarök. Mae'r enw Máni yn golygu "Lleuad".

Mewn mytholeg Tsieineaidd, mae'r dduwies Chang'e wedi'i gadael ar y lleuad wedi iddi yfed gormodedd o edlyn anfarwoldeb.[4] Mae ganddi grŵp bach o gwningod yn gwmni iddi.

Mewn mytholeg Haida, mae'r ffigwr yn cynrychioli bachgen yn casglu brigau. Roedd tad y bachgen wedi dweud wrtho y byddai'r lleuad yn goleuo'r nos, gan ganiatau i'r gwaith gael ei gyflawni. Gan nad oedd y bachgen eisiau casglu'r brigau, dechreuodd gwyno a gwatwar y lleuad. Fel cosb am ei amharch, cafodd y bachgen ei gymryd o'r ddaear a'i gaethiwo yn y lleuad.[5]

Yn ôl stori mewn mytholeg Affricanaidd mai brenin yw hen ŵr y lleuad sy'n ceisio adennill y lleuad o'r awyr er mwyn ei roi i'w unig fab.

Esboniad gwyddonol

Mae hen ŵr y lleuad yn gyfuniad o olion ar wyneb y lleuad. Mae'r spotiau mawr, fflat hyn yn cael eu galw yn "maria" neu "foroedd" oherwydd, am gyfnod hir, roedd seryddwyr yn credu mai pyllau mawr o ddwr oeddent. Ardaloedd mawr sydd wedi'u ffurfio gan lafa ydymt a lanwodd geudyllau ac a oerodd i ffurfio carreg basalt lyfn.[6]

Mae ochr agosaf y lleuad sy'n cynnwys y maria hyn bob amser yn wynebu'r ddaear. Mae hyn o ganlyniad i gylchdro cydamserol. Wedi'i achosi gan rymoedd disgyrchiant, a siâp oblong y lleuad yn rhannol, mae ei gylchdro wedi arafu nes ei fod yn troi unwaith yn union am bob taith o amgylch y ddaear. Mae hyn yn achosi i ochr agosaf y lleuad wynebu'r ddaear bob amser.[7]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Harley, the Rev.
  2. Wolfson, Elliot R. "The Face of Jacob in the Moon" in The Seductiveness of Jewish Myth: Challenge or Response? edited by S. Daniel Breslauer, Albany NY; SUNY Press, 1997
  3. Harley, Timothy (1885).
  4. Houyi#Chang'e's ascent to the Moon
  5. The Hydah mission, Queen Charlotte's Islands Archifwyd 2012-10-20 yn y Peiriant Wayback Charles Harrison, Church Missionary Society c. 1884
  6. Harrington, Philip S., and Edward Pascuzzi (1994).
  7. "Looking at the Man in the Moon". www.caltech.edu. California Institute of Technology. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-08. Cyrchwyd July 31, 2014.