Hen Dŷ Ffarm

Hunangofiant y llenor a chenedlaetholwr Cymreig adnabyddus D. J. Williams yw Hen Dŷ Ffarm. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1953 gan Wasg Aberystwyth. Fe'i ystyrir yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg yr 20g.

Yn y gyfrol mae D.J. yn darlunio bywyd a chymdeithas yn ardal wledig Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin, ac yn neilltuol y bywyd teuluol ar fferm Penrhiw.

Cyfieithwyd y gyfrol i'r Saesneg gan Waldo Williams ac fe'i cyhoeddwyd yn 1961 dan yr enw The Old Farm House.


Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.