Uwch-ddarlithydd ac awdur o Fancffosfelen yw Hazel Walford Davies (geni Ionawr1940).[1]
Bu Hazel Walford Davies yn Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn Athro ym Mhrifysgol Morgannwg. O 2006 hyd at 2011, bu’n gadeirydd Bwrdd Rheoli’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg sydd bellach wedi’i ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyflawnodd, gyda hynny, waith pwysig ar adeg sefydlu’r Coleg Cymraeg. Yn 2014 fe'i hetholwyd yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru[2]. Yn 2017 cyflwynodd darlith flynyddol Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion ar Yr Arglwydd Howard de Walden. Fe'i hurddwyd yn aelod wisg wen o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.[3]
Hi yw awdur Saunders Lewis a Theatr Garthewin (1995) a golygydd State of Play (1998), One Woman, One Voice (2000, 2005), Llwyfannau Lleol (2000) a Now You're Talking (2005). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau yn ymwneud â bywyd a gwaith Syr O. M. Edwards. Bu'n aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Gadeirydd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Hazel Walford Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.