Harry Parry |
---|
Ganwyd | 22 Ionawr 1912 Bangor |
---|
Bu farw | 18 Hydref 1956 Llundain |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | arweinydd band, arweinydd, cerddor jazz, chwaraewr sacsoffon |
---|
Arddull | jazz |
---|
Priod | Jeannie Bradbury |
---|
Roedd Harry Owen Parry (22 Ionawr 1912 – 18 Hydref 1956) yn chwararewr clarinet jazz ac arweinydd band o Gymru.[1]
Ganwyd Parry ym Mangor, Cymru. Roedd yn chwarae'r cornet, corn tenor, flugelhorn, drymiau a ffidil yn blentyn, a dechreuodd chwarae'r clarinet a'r sacsoffon yn 1927. Wedi iddo symud i Lundain ym 1932, fe chwaraeodd gyda nifer o fandiau dawns, gan gynnwys Percival Mackey's, yna arweiniodd ei fand chwe aelod ei hun. Bu'n chwarae yng Ngwesty'r St. Regis yn 1940 pan gafodd ei ddewis gan y BBC i arwain y band yn ei sioe Radio Rhythm Club. Yna, aeth ymlaen i recordio dros 100 o deitlau ar gyfer Recordiau Parloffone gyda'i chwechawd, a oedd yn cynnwys George Shearing a Doreen Villiers fel aelodau.
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, bu Parry yn gweithio'n helaeth ar radio a theledu, yn cynnwys bod yn chwaraewr recordiau. Bu'n teithio ar draws y byd fel arweinydd band yn y 1940au diweddar a'r 1950au, gan gynnwys y Dwyrain Canol a'r India. Roedd Parry yn ddyledus o ran ei arddull i Benny Goodman, cymhariaeth a nodwyd gan feirniaid cyfoes. Bu farw yn Llundain.
Cyfeiriadau
Bywgraffiad