Cynhaliwyd Gŵyl y Gelli am y tro cyntaf ym 1988. Cafodd y syniad i gynnal gŵyl lenyddol yn y Gelli Gandryll, "tref y llyfrau", ei llunio gan yr actor a'r rheolwr theatr Norman Florence, ei wraig yr actores Rhoda Lewis, a'u mab Peter Florence wrth eu bord gegin ym 1987.[1] Dywedir taw'r nawdd cychwynnol i gynnal yr ŵyl oedd £100 a enillwyd mewn gêm o bocer, ond nid yw Peter Florence erioed wedi cadarnháu'r stori hon. Ymwelodd y dramodydd Seisnig Christopher Fry â'r ŵyl gyntaf.[2]
Cyfeiriadau