Gŵyl y Cnapan

Gŵyl y Cnapan
Enghraifft o:gŵyl gerddoriaeth Edit this on Wikidata

Gŵyl y Cnapan yn Ffostrasol oedd un o brif wyliau’r sin gerddoriaeth Gymraeg. Fe’i sefydlwyd yn 1984 gan ddod i ben yn 2002 oherwydd costau cynyddol.

Yn ystod yr 1990au tyfodd i fod yn un o wyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru ac roedd yn cynnwys gŵyl werin a gŵyl roc.