Cwmwd canoloesol yn ne Teyrnas Ceredigion oedd Gwynionydd (ceir yr amrywiad Gwinionydd weithiau). Gyda Mebwynion, Caerwedros ac Is Coed, roedd yn un o dri chwmwd cantref Is Aeron.
Gorweddai Gwynionydd yn ne eithaf Ceredigion, gydag Afon Teifi yn dynodi'r rhan helaeth o'r ffin â Dyfed ac Ystrad Tywi. Fffiniai â chymydau Caerwedros a Mebwynion i'r gogledd, cymydau Mabelfyw a Mabudrud yn y Cantref Mawr a chantref Emlyn yn Nyfed i'r de, ac Is Coed i'r gorllewin.
Mae'n bosibl mai caer Pen Coed y Foel, ger Llandysul, oedd canolfan gynnar y cwmwd.
Gweler hefyd