Mae Gwobrau Michael Marks am Bamffledi Barddoniaeth (a sefydlwyd yn 2009) yn gyfres o wobrau llenyddol Prydeinig am ysgrifennu a chyhoeddi pamffledi barddoniaeth. Oddi ar 2012, gweinyddir y gwobrau gan Ymddiriedolaeth Wordsworth mewn cydweithrediad â'r Llyfrgell Brydeinig a'r Times Literary Supplement, a chefnogaeth ariannol Ymddiriedolaeth Elusennol Michael Marks.
Crëwyd y wobr i ddangos pa mor effeithiol y gall pamffledi - a ddiffinnir gan y wobr fel llyfryn hyd at 36 thudalen - fod wrth gyflwyno barddoniaeth newydd i ddarllenwyr.[1] Canmolodd Seamus Heaney sefydlu’r wobr fel cam "ysbrydoledig".
Roedd dau gategori i'r gwobrau yn wreiddiol - sef y pamffled barddoniaeth gorau yn Saesneg, a'r cyhoeddwr pamffledi gorau. Yn fwy diweddar, ychwanegwyd dau gategori ychwanegol, sef gwobr am ddarlunio (ers 2018) a gwobr am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd (ers 2019).
Morgan Owen oedd enillydd cyntaf y wobr am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd gyda'i gasgliad moroedd/dŵr a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau'r Stamp.[2]
Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd
Mae Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn cydnabod pamffled rhagorol o farddoniaeth a gyhoeddwyd mewn iaith Geltaidd yn y DU.
Yn y tabl isod, gwelir rhestr o bamffledi'r rhestrau hir. Caiff yr enillwyr eu dangos mewn print trwm ar frig pob blwyddyn.
Cyfeiriadau