Dyma erthygl am yr adeilad o'r 18fed ganrif; ceir erthygl arall am Gastell Rhuthun, y gwesty Canoloesol.
Adeilad yn Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun, Sir Ddinbych ydy Gwesty'r Castell. Mae'n dyddio o'r 18g, ac mae wedi'i gofrestru'n adeilad hynafol Gradd II*. Caiff ei warchod gan Cadw; rhif cyfeirnod: 917.[1] Dyma ganol y dref, ac ar draws y ffordd saif yr adeilad lle, ar 16 Medi 2014, taniwyd y wreichionen gyntaf yn chwyldro Owain Glyndŵr pan losgodd Owain a'i fyddin yr hen Lys).
Mae'n adeilad tair llawr wedi'i wneud o fric coch lleol, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 18g. Arferai'r goets fawr aros yma ar ei daith o Gaer i Gaergybi. Y pryd hynny, ei enw oedd 'Y Llew Gwyn'.[2] Yn 2011, fe'i prynnwyd a'i addasu cryn dipyn gan y gadwen westai honno: J D Wetherspoon.[3]
Cyfeiriadau