Gwladwriaeth a fodolai yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop o Dachwedd 1918 i Orffennaf 1919 oedd Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin (Wcreineg: Західно-Українська Народня Республіка, ЗУНР trawslythreniad: Zakhidno-Ukrainska Narodnia Respublika, ZUNR). Roedd ei thiriogaeth yn cyfateb yn fras i'r rhan fwyaf o Ddwyrain Galisia, neu Orllewin Wcráin, sef y broydd Wcreinaidd ethnig a fu dan reolaeth Awstria-Hwngari hyd at gwymp y frenhiniaeth honno ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Parodd Rhyfel y Pwyliaid a'r Wcreiniaid trwy gydol oes y weriniaeth.
Hanes
Sefydlu
Yn niwedd Medi 1918, ffurfiwyd y Gomisariaeth Filwrol Gyffredinol Wcreinaidd yn Lviv er mwyn paratoi am wrthryfel arfog yn erbyn Awstria-Hwngari. Etholwyd Dmytro Vitovsky, capten o Leng Reifflwyr y Sich Wcreinaidd, yn gadeirydd y gomisariaeth yn Hydref 1918. Wrth i Awstria-Hwngari chwalu'n ddarnau, sefydlwyd Rada Cenedlaethol Wcráin yn Lviv ar 18 Hydref gan aelodau o gynulliadau Galisia a Bukovyna a chynrychiolwyr o bleidiau gwleidyddol y ddwy ranbarth, yn ogystal â chlerigwyr a myfyrwyr Wcreinaidd. Ar 19 Hydref, datganodd y Rada annibyniaeth y weriniaeth Wcreinaidd i gwmpasu holl diroedd yr Wcreiniaid yng Ngalisia, Bukovyna, a Thrawscarpathia. Etholwyd Yevhen Petrushevych yn llywydd y Rada, a chytunwyd i ddatblygu cyfansoddiad democrataidd ar gyfer y wladwriaeth newydd.[1]
Ar 31 Hydref, daeth yn hysbys bod y Pwyllgor Diddymu—a grëwyd ar 28 Hydref gan wleidyddion Pwylaidd yn Kraków—ar ei ffordd i Lviv gyda'r nod o ymgorffori Galisia yn rhan o Wlad Pwyl annibynnol. Gwrthododd y Cadfridog Karl Georg Huyn, llywodraethwr milwrol Galisia, gais gan y Rada i drosglwyddo rheolaeth dros Galisia a Bukovyna i'r corff hwnnw. Ar yr un diwrnod, heb gysylltiad â'r Rada, penderfynodd y Gomisariaeth sicrhau rheolaeth dros Lviv, a'r noson honno gorchmynnodd Vitovsky i'w reifflwyr gipio'r prif adeiladau llywodraethol ar draws y ddinas.[1]
Sefydlwyd Ysgrifenyddiaeth Wladol y ZUNR ar 13 Tachwedd 1918, ac aeth ati i gadarnhau cyfansoddiad y wladwriaeth newydd a mabwysiadu ei henw swyddogol. Diffiniwyd ffiniau'r ZUNR gan y Gyfraith Sylfaenol Dros Dro, a hawliai diriogaeth o 70,000 km2 gan gynnwys broydd yr Wcreiniaid ethnig yng Ngalisia, Bukovyna, a Thrawscarpathia, gyda phoblogaeth o chwe miliwn.[1]
Cychwyn y rhyfel
Er i'r lleiafrifoedd o Almaenwyr ac Iddewon gadw'n ffyddlon i'r wladwriaeth newydd, trodd y boblogaeth Bwylaidd yn erbyn y llywodraeth Wcreinaidd a chychwynnodd Rhyfel y Pwyliaid a'r Wcreiniaid. Ymunodd Teyrnas Rwmania â'r ffrae, a meddiannwyd Chernivtsi gan luoedd Rwmanaidd ar 11 Tachwedd gyda'r nod o gyfeddiannu gogledd Bukovyna. Ar 21 Tachwedd, wedi tair wythnos o frwydro, ildiodd Lviv i'r Pwyliaid, a symudodd llywodraeth y ZUNR felly i Ternopil ac wedyn, yn niwedd Rhagfyr 1918, i Stanyslaviv (bellach Ivano-Frankivsk).[2]
Cydweithio a gwrthdaro â'r UNR
Ar 1 Rhagfyr 1918, arwyddwyd blaen-gytundeb gan ddirprwyon o'r Rada ac o Gyfarwyddiaeth Gweriniaeth Pobl Wcráin (UNR), gan ddatgan bwriad y ddwy lywodraeth o uno'r ZUNR â'r UNR yn y dyfodol. Cadarnhawyd y cytundeb ar 3 Ionawr 1919, ac ar 22 Ionawr cyhoeddwyd Deddf Undeb yn Kyiv, prifddinas yr UNR. Yn unol â'r cynllun i uno'r ddwy weriniaeth Wcreinaidd, cafodd yr ZUNR ei hail-enwi yn Oblast Gorllewin yr UNR (ZO UNR). Fodd bynnag, ni chafodd y ddwy lywodraeth eu huno.[2]
Erbyn Mehefin 1919, llwyddodd y lluoedd Pwylaidd i ysgubo dros y fyddin Wcreinaidd yng Ngalisia (UHA), a bu'r rhanbarth cyfan bron dan feddiannaeth, ac eithrio'r triongl o dir rhwng afonydd Dnister a Zbruch a thref Zalishchyky. Ymddiswyddodd y llywodraeth ar 9 Mehefin 1919, a throsglwyddodd Pwyllgor Gweithredol y Rada ei rymoedd i Yevhen Petrushevych, gan ei benodi felly yn unben ar Oblast y Gorllewin (ZO UNR).[2] Aeth Petrushevych ati i sefydlu corff gweithredol dros dro, Cyngor y Gweinidogion Llawnalluog, a Changhellfa Filwrol. Enciliodd yr UHA dros Afon Zbruch yng nghanol Gorffennaf, gan ymuno â Byddin yr UNR. O Orffennaf i Dachwedd 1919, lleolwyd Petrushevych a llywodraeth yr ZUNR yn Kamianets-Podilskyi gyda llywodraeth yr UNR.[3]
Y llywodraeth alltud
Yn Nhachwedd 1919 bu'r Pwyliaid yn drech na'r Wcreiniaid o'r diwedd, a gyrrwyd Petrushevych a'i lywodraeth ar ffo, ac aethant yn alltud yn Fienna, Awstria.[3]
Gwaddol
Er mai byrhoedlog bu hanes Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin (a Gweriniaeth Pobl Wcráin), bu'r ffaith iddo fodoli, ynghyd â Gweriniaeth Wcráin, orfordi Lenin a'r Comiwnyddion canolog Rwsieg eu allolwg, gydnabod bod angen cydnabyddiaeth genedlaethol Wcreineg os oedd yr Undeb Sofietaidd i fodoli. O ganlyniad, wedi llwyddiant y Fyddin Goch gwnaed Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn un o 5 Sofiet Weriniaeth a sefydlodd y wladwriaeth newydd.[4]
Gweler hefyd
Західно-Українська Народна Республіка 1918–1923. Енциклопедія. Т. 1: А–Ж. Івано-Франківськ : Манускрипт-Львів, 2018. 688 с.
Західно-Українська Народна Республіка 1918–1923. Енциклопедія. Т. 2: З–О. Івано-Франківськ : Манускрипт-Львів, 2019. 832 с.
Західно-Українська Народна Республіка 1918-1923. Енциклопедія. Т. 3: П – С. Івано-Франківськ: Манускрипт-Львів, 2020.576 с.
Західно-Українська Народна Республіка 1918-1923. Енциклопедія. Т. 4: Т – Я. Івано-Франківськ: Манускрипт-Львів, 2021.688 с.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 748.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Ivan Katchanovski et al., Historical Dictionary of Ukraine (2013), t. 749.
- ↑ 3.0 3.1 Ivan Katchanovski et al., Historical Dictionary of Ukraine (2013), t. 750.
- ↑ "How Ukraine Became Part of the USSR - The Soviet–Ukrainian War". Sianel Youtube 'The Great War'. 22 Mawrth 2022.