Mudiad ieuenctid Cymreig ydy Gwerin y Coed sy'n cynnig grwpiau wythnosol ledled Cymru. Maent yn gysylltiedig â'r mudiad elusennol Prydeinig, Woodcraft Folk. Nod y mudiad ydy hybu gwerthoedd megis tegwch cymdeithasol, heddwch, gofal am yr amgylchedd a chydraddoldeb.[1]
Bob wythnos, mae grwpiau'n cwrdd mewn gwahanol ardaloedd ar draws y wlad i wneud pob math o weithgareddau fel coginio ar dân agored, crefftau, teithiau cerdded, gemau, drama, canu a thrafod. Mae gwersylla yn rhan bwysig o fywyd yr elusen a bydd grwpiau Gwerin yn gwersylla'n rheolaidd ac yn dod at ei gilydd i gynnal gwersyll mawr o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'r aelodau ifanc yn cael cryn gefnogaeth i'w galluogi i gymryd cyfrifoldeb am rhan helaeth o'r trefnu, siopa, paratoi bwyd, gosod pebyll ac yn y blaen.
Cyfeiriadau