Gwaith Dafydd y Coed a Beirdd Eraill o Lyfr Coch Hergest

Gwaith Dafydd y Coed a Beirdd Eraill o Lyfr Coch Hergest
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddR. Iestyn Daniel
AwdurDafydd y Coed Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Awst 2002 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9780947531713
Tudalennau234 Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth Gymraeg
CyfresCyfres Beirdd yr Uchelwyr

Golygiad o waith pum bardd canoloesol, wedi'i olygu gan R. Iestyn Daniel, yw Gwaith Dafydd y Coed a Beirdd Eraill o Lyfr Coch Hergest. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 01 Awst 2002. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr

Golygiad o destun waith pum bardd o'r 14eg a'r 15g sef Dafydd y Coed, Ieuan Llwyd ab y Gargam, Meurig ab Iorwerth, Y Proll, Y Mab Cryg, Tudur ap Gwyn Hagr a Tudur Ddall, yn cynnwys rhagymadroddion am fywydau a gwaith y beirdd, aralleiriad o'r testunau, nodiadau a geirfa.

Ceir yma bedair awdl foliant i Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan yng Ngŵyr, un o noddwyr beirdd mwyaf diwylliedig y ganrif a chasglwr llawysgrifau gan gynnwys Llyfr Coch Hergest ei hun a luniwyd tua 1400. Ymhlith y cerddi mawl eraill mae awdl Dafydd y Coed i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion, cyfaill i Ddafydd ap Gwilym, a'r sawl a roes ei enw i'r llawysgrif, Llyfr Gwyn Rhydderch.

Yn ogystal â cherddi mawl a thair cerdd grefyddol, ceir gan Ddafydd y Coed bum cerdd sy’n nodweddiadol o'r corff o ddychan bras a ddiogelwyd rhwng cloriau'r Llyfr Coch, yn cynnwys dychan i Raeadr Gwy. Trigolion Rhaeadr sydd dan y lach am geisio llofruddio’r bardd, a hynny’n adlewyrchu efallai, fel yr awgrymir, y tensiwn a fodolai rhwng dwy genedl yng nghyffiniau trefi Seisnig newydd y cyfnod wedi’r Goncwest.

Dychanwr oedd Y Mab Cryg yntau, a barnu wrth y tair cerdd o’i eiddo yn y Llyfr Coch: i leidr a feiddiodd ysbeilio cartre’r bardd, i Sais o’r enw Griffri a’i carcharodd ar gam, ac i ddau lwfrgi am ffoi o faes y gad. Agwedd ar y cerddi hyn yw eu naws ysgafn, storïol, a’u diffyg prifodl hefyd sy’n beth anghyffredin yn y cyfnod hwnnw.


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013