Guaraní (iaith)

Iaith a siaredir yn Ne America yw Guaraní (enw yn yr iaith ei hun: Avañe'ẽ). Fe'i siaredir ym Mharagwâi ac ardaloedd cyfagos o'r Ariannin, Bolifia a Brasil. Ceir nifer o dafodieithoedd; a ystyrir gan rai ieithyddwyr yn ieithoedd ar wahân. Mae'r iaith yn perthyn i is-deulu Tupi-Guaraní, ac mae ganddi ei gwyddor ei hyn.

Ceir tua 6 miliwn o siaradwyr i gyda, tua 5 miliwn ohonynt yn siarad tafodiaith neu iaith Guaraní Paragwâi, sy'n un o ieithoedd swyddogol Paragwâi. Mae tua 94% o boblogaeth Paragwâi yn medru Guaraní.

Daeth nifer o eiriau o'r iaith i ieithoedd eraill, megis Tapir, Jaguar, Tapioca ac eraill.