Y Großglockner yw mynydd uchaf Awstria, 3,798 medr uwch lefel y môr. Saif ym mynyddoedd yr Hohe Tauern, rhan o'r Alpau. Mae rhewlif y Pasterze yn tarddu ar ei lethrau. Saif ar y ffîn rhwng taleithiau Carinthia a Tirol.
Gellir cyrraedd y mynydd ar hyd y Großglockner Hochalpenstraße, sy'n arwain o Zell am See heibio Bruck i gyfeiriad Heiligenblut. Cyrhaeddwyd y copa am y tro cyntaf yn 1800, wedi i Franz Xaver von Salm-Reifferscheid, Esgob Gurk-Klagenfurt, drefnu ymgyrch fawr. Ar 28 Gorffennaf, cyrhaeddodd Sepp a Martin Klotz, Martin Reicher ac un person arall y copa, a'r diwrnod canlynol gosodwyd croes ar y copa.