Grid Trydan Cenedlaethol (gwledydd Prydain)

Peilon a cheblau 400 kV yn Swydd Gaer
Y trydan a gynhyrchwyd ac a ddosbarthwyd gan y grid rhwng 1920 a 2014[1]

Rhwydwaith dargludo trydan foltedd uchel yw'r Grid Trydan Cenedlaethol. Mae'n cysylltu gorsafoedd ynni ac is-orsafoedd trydan i'r defnyddiwr yn yr Alban, Cymru a Lloegr. Ceir cysylltiadau o dan y môr i ogledd Iwerddon (HVDC Moyle), Gweriniaeth Iwerddon (EirGrid), Ynys Manaw (Isle of Man to England Interconnector) a Ffrainc (HVDC Cross-Channel).

Pan ddad-genedlaetholwyd y Bwrdd Trydan Canolog yn 1990, trosglwyddwyd ei perchnogaeth y Grid Cenedlaethol i'r National Grid Company plc, a newididodd ei enw'n ddiweddarach i National Grid Transco, ac wedyn i National Grid plc. Holltwyd y grid yn ddau yn yr Alban: un i dde a chanol yr Alban (SP Energy Networks, un o isgwmniau Scottish Power) a'r llall i ogledd yr Alban (SSE plc); o ran gweinyddu a goruchwylio, mae'r National Grid plc yn gyfrifol am yr Alban a gweddill gwledydd Prydain.

Rheolaeth

Mae rhan Cymru a Lloegr o'r grid yn cael ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Grid Cenedlaethol yn 'St Catherine's Lodge', Sindlesham, Wokingham yn Berkshire.[2][3]

Symudiad y trydan

Mae'r diagram isod yn dangos rhwydwaith dosbarthu trydan sy'n debyg i'r grid cenedlaethol. Rhwydwaith dosbarthu trydan Egni cinetig sydd ei angen i greu trydan. Y ffordd fwyaf effeithlon o gynhyrchu egni cinetig ar hyn o bryd yw i wresogi dŵr i greu ager sydd wedyn yn gyrru tyrbin. Wrth i tua 25,000 V o drydan adael y pŵerdŷ neu'r felin wynt mae'n troi'r foltedd i tua 400,000 V (400 kV) ar y peilonau uwchben oherwydd mae foltedd uchel yn lleihau'r cerrynt ac felly mae yna lai o wres yn cael ei golli. Mae 'newidydd gostwng' yn newid y foltedd i lawr i 230 V yn nes at gartrefi'r cwsmeriad.

Mae'r folteddau yn amrywio o wlad i wlad; yng ngwledydd Prydain mae oddeutu 240v.

Cymru

Yng Nghymru mae'r grid dosbarthu trydan wedi cyrraedd ei uchafswm mewn rhai mannau o gefn gwlad, gyda nifer o gwmniau creu trydan yn cael eu gwrthod. Yn ôl Chris Blake, Cyfarwyddwr Cymoedd Gwyrdd, "Mae rhannau maith o ganolbarth a gorllewin Cymru a llefydd fel Dyfnaint a Chernyw a Gwlad yr Haf i bob pwrpas ar gau i adfywiad ynni adnewyddol am fod y grid yn llawn".[4]

Cyfeiriadau

  1. "Digest of UK energy statistics: 60th Anniversary Report". Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2013.
  2. "Agenda 22 May 2007" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-11-03. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2010.
  3. "NETA Despatch Instruction Guide" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-11-03. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2010.
  4. Golwg tud 4; Cyfrol 27 Rhif 42; 2 Gorffennaf 2015