Gorynys yr Eidal

Gorynys yr Eidal
Llun lloeren o'r orynys yn y gwanwyn
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal, San Marino, y Fatican Edit this on Wikidata
Arwynebedd50,709 mi², 131.275 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Liguria, Môr Ionia, Môr Adria, Môr Tirrenia, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42°N 14°E Edit this on Wikidata
Map

Un o dair gorynys mawr yn Ne Ewrop ydy Gorynys yr Eidal neu Gorynys yr Apenninau (Eidaleg: Penisola Appenninica). (Y ddau arall yw Penrhyn Iberia a Phenrhyn y Balcanau). Mae Gorynys yr Eidal yn ymestyn dros 1,000 cilomedr o Ddyffryn Po yn y gogledd i'r Môr Canoldir yn y de. Oherwydd siâp yr orynys, rhoddir y ffugenw Lo Stivale ("Yr Esgid") iddo. Mae tair gorynys llai o faint yn cyfrannu at y siâp unigryw hwn, sef Calabria, Salento a Gargano.

Mae'r orynys i gyd bron yn rhan o Weriniaeth yr Eidal, ar wahan i San Marino a Dinas y Fatican. Yn ogystal, fel arfer ystyrir Sisili a Malta ac ynysoedd bychain eraill megis Palagruža (Croatia), yn ynysoedd oddi ar y penrhyn ac oherwydd hyn maent wedi'u grŵpio'n ddaearyddol gyda hi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.