Mae Gorsaf reilffordd y Fflint yn orsaf reilffordd yn gwasanaethu tref y Fflint yn Sir y Fflint, Cymru. Mae'r orsaf ar y Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru.
Cynlluniwyd yr orsaf gan Francis Thompson ar gyfer Rheilffordd Caer a Chaergybi. Agorwyd yr orsaf ar 1 Mai 1848. Mae’r orsaf yn un restredig Gradd II. Atgyweiriwyd yr orsaf yn 2007 gan Network Rail, yn costio miliwn o bynnoedd.[1][2]