Mae prif adeilad yr orsaf yn 23.5 medr o uchder a 105.5 medr o hyd. Mae ganddo 8 o golofnau dorig, ac mae gan y neuadd tocynnau llawr o derazzo marmor.[2]
Hanes
Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol ym `1874, ond cafodd ei llosgi ym 1878. Wedyn adeiladwyd gorsaf reilffordd Lambton yn 1880 ar gyfer trenau i’r Wairarapa. Adeiladwyd Gorsaf Reilffordd Thorndon yn 1886 gan Reilffordd Wellington a Manawatu ar gyfer ei threnau i Longburn. Roedd galw am un orsaf ar gyfer y rheilffyrdd i gyd, a chynlluniwyd gorsaf ym 1922 . Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1933 ac agorwyd yr orsaf ar 19 Mehefin 1937.[3]