Terfynfa reilffordd fawr yng nghanol Llundain yw Gorsaf Waterloo Llundain. Mae wedi'i lleoli i'r de o Afon Tafwys ger Pont Waterloo, mae'r orsaf yn gwasanaethu De Lloegr, De-Orllewin Lloegr a gorsafoedd maestrefol Gorllewin Llundain.
Gorsaf Waterloo Llundain yw gorsaf drenau prysuraf y Deyrnas Unedig o ran nifer y teithwyr ac mae'n un o orsafoedd trenau prysuraf Ewrop, gydag 88 miliwn yn teithio drwyddi yn ystod blwyddyn ariannol 2008–09.[1]. Mae'r gwir nifer o deithwyr fodd bynnag yn debygol o fod yn llawer uwch na'r ffigwr hwn, gan nad yw'n cynnwys teithwyr na brynodd docyn na theithwyr y Rheilffordd Danddaearol. Hon yw gorsaf mwyaf Prydain o ran nifer o blatfformau ac o ran arwynebedd llawr. Yr orsaf drenau prysuraf o ran nifer y trenau yw Gorsaf Clapham Junction, a saif bedair milltir i lawr y lein o Orsaf Waterloo Llundain.
Mae'r trefi sydd â gwasanaethau i Waterloo yn cynnwys y canlynol (rhestr anghyflawn):
Lleolwyd y gan "Waterloo Sunset" gan y Kinks yng ngorsaf Waterloo.
Mae gorsaf danddaearol Waterloo hefyd ar rwydwaith Rheilffordd Danddaearol Llundain, sy'n cysylltu gyda'r orsaf rheilffordd genedlaethol.
Cyfeiriadau
- ↑ Clinnick, Richard. "Waterloo retains its crown as Britain's busiest railway station", Rail, Peterborough, 21 Ebrill 2010.