Cynlluniwyd yr orsaf gan Isambard Kingdom Brunel. Agorwyd yr orsaf yn Awst 1840, yn dermiws gorllewinol o reilffordd y Great Western. Adeiladwyd prif adeilad yr orsaf wreiddiol rhwng 1839 a 1841. Estynnwyd yr orsaf ym 1870, yn cynnwys y prif adeiladau presennol, cynlluniwyd gan Matthew Digby Wyatt, a 7 platfform. Cynlluniwyd to'r orsaf gan Francis Fox. Estynnwyd yr orsaf eto gan P.E.Culverhouse, a chyblhawyd y gwaith ym 1935.[1]