Mae gorsaf reilffordd Skegness yn gwasanaethu tref arfordirol Skegness yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Mae'r gorsaf yn eiddo i Network Rail ac yn cael ei rheoli gan Rheilffordd East Midlands, sy'n darparu gwasanaethau rheilffordd o ac i Nottingham.
Hanes
Agorwyd y llinell i Wainfleet yn Awst 1871 gan Rheilffordd Wainfleet a Firsby. Ehangodd y llinell i Skegness; agorwyd y gorsaf ar y 28ain o Orffennaf 1873.
Galwyd Skegness yn "Blackpool of the East Coast" neu "Nottingham by the Sea" ac mae ganddo fasgot, y Jolly Fisherman (a ddyliniwyd gan John Hassall yn 1908 ar gyfer y Great Northern Railway) a slogan - "Skegness is so bracing" - cyfeiriad at y gwyntoedd oer o'r gogledd-ddwydrain sy'n gallu ac yn aml yn chwythu oddi ar Fôr y Gogledd. Mae cerflun o The Jolly Fisherman nawr yn cyfarch teithwyr wrth iddyn nhw gyrraedd yr orsaf wrth fynd i mewn trwy'r brif fynedfa.
Hyd at 1966, roedd gan yr orsaf reilffordd iard nwyddau gyda siediau; fodd bynnag, dymchwelwyd yr ardal hon ynghyd â phlatfform un rhwng 1980 a 1983. Mae'r ardal hon bellach yn cael ei defnyddio fel maes parcio yn perthyn i swyddfeydd cyfagos. Roedd gorsaf reilffordd Seacroft ychydig tu allan i Skegness, ond mae hon hefyd wedi cau erbyn hyn. Yr orsaf nesaf ar y lein yw Havenhouse. Yn 2006, cafodd yr holl wasanaethau a gludwyd gan locomotifau i Skegness eu hatal oherwydd bod pwysau'r locos yn gwthio'r cledrau'n aml; fodd bynnag, mae'r gwaharddiad hwn wedi'i godi ers hynny ar ôl i Network Rail ddechrau ar gynllun adnewyddu traciau sydd bellach yn cyrraedd y cam olaf.
Gwasanaethau
O Fai 2022 ymlaen, mae gwasanaeth bob awr i Nottingham (trwy Grantham) yn ystod yr wythos a dydd Sadwrn, er bod rhai gwasanaethau brig yn osgoi Grantham ac yn parhau syth i Nottingham.
Ar dyddiau Sul yn yr haf, mae rhai gwasanaethau yn dechrau ac yn gorffen yn Mansfield Woodhouse. Yn y gaeaf, mae gwasanaeth cyfyngedig yn cael ei weithredu (pedwar ymadawiadau y dydd, pob un ar ôl canol dydd).
Cyfeiriadau
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.