Mae gorsaf reilffordd Penhelyg (Seisnigiad: Penhelig) yn gwasanaethu cyrion dwyreiniol Aberdyfi yng Ngwynedd, Cymru. Mae'r orsaf wedi ei leoli ar Reilffordd Arfordir y Cambrian ac yn cael ei reoli a'i weithredu gan Trafnidiaeth Cymru. Agorwyd yr orsaf ym 1933 gan Reilffordd y Great Western.[1]
Mae yr orsaf yn sefyll rhwng dau o dwnelau.
Cafodd yr orsaf ei hailadeiladu yn 2018. Cafodd y llwyfan pren ei hailosod.[2]
Cyfeiriadau