Mae Gorsaf reilffordd Paekakariki yn orsaf ar Arfordir Kapiti ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd, a wasanaethir gan drenau trydanol o Wellington. Agorwyd yr orsaf ym 1886, yn rhan o Reilffordd Wellington a Manawatu. Ym 1908, daeth yr orsaf yn rhan o rwydwaith Adran Reilffordd Seland Newydd, ac yn rhan o’r Rheilffordd Grand Trunk rhwng Wellington ac Auckland.[1] Mae amgueddfa[2][3] a siop lyfrau yn yr orsaf. Defnyddir y rhan fwyaf o iard yr orsaf gan Steam Incorporated i gadw locomotifau a cherbydau treftadaeth.
Cyfeiriadau