Ym 1844, cyfunodd Rheilffordd y Midland Counties gyda 2 arall i fod Rheilffordd y Canolbart. Erbyn 1848, roedd angen gorsaf fwy ac roedd llinellau newydd i Lincoln ar agor. Agorwyd gorsaf newydd ar y safle bresennol ar 22 Mai 1848 yn disodli Heol Carrington. Cynlluniwyd yr orsaf gan J.E.Hall, gyda mynediad ar Heol yr Orsaf. Prynodd y rheilffordd gangen gamlas West Croft ym 1869 i’w llenwi a gosod cledlau at y De.[2] Erbyn y 1880au, gweithiodd 170 o bobl yn yr orsaf.
Gorsaf 1904
Ar ôl agoriad Gorsaf reilffordd Victoria gan Reilffordd y Great Central, appwyntiwyd Albert Edward Lambert, pensaer lleol, i ail-adeiladu gorsaf y Midland. Roedd o wedi cynllunio gorsaf Victoria, felly roedd y gorsafoedd yn weddol debyg i’w gilydd.[3] Adeladwyd yr orsaf newydd ar safle’r un gwreiddiol, ond gyda’r fynedfa ar Heol Carrington.[4] Roddwyd y gyntundeb i’r adeiladau’r orsaf, gan gynnwys y rhai ar blatfformau 1 a 2 i Edward Wood a’i feibion o Derby ar 23 Ionawr 1903 a 16 Medi 1903. Aeth y gytundeb i’r swyddfa barseli ac adeiladau ar blatfformau 4 a 5 i Kirk a Parry o Sleaford ar 18 Mehefin 1903. Adeiladwyd y gwaith haearn a dur gan Andrew Handyside a Chwmni[5] a Ffowndri Ffenics. Adeiladwyd yr orsaf mewn dull Adfywiad Baroc Edwardiaidd, yn costio miliwn o bynnau, yn defnyddio brics cochion, teracota, a faience, gyda toau o lechi a gwydr.[6] Agorwyd adeiladau’r orsaf ar 17 Ionawr, 1904, er nad oedd y platfformau’n barod.Dywedwyd bod y cyhoedd llawn edmygedd ar safon adeiladau’r orsaf.[7]
20fed ganrif
Daeth yr orsaf yn rhan o’r Rheilffordd Llundain, y canolbarth a’r Alban ym 1923. Ar 2il Gorffennaf 1939, roedd yr orsaf yn un o 8 yng nghanolbarth Lloegr wedi targedi gan yr IRA[8] Gadawyd bom mewn siwtces. Dinistriwyd to gwydr yr ystafell gotiau a’r swyddfa ymholiadau.[9] Daeth yr orsaf yn rhan o [[Rheilffordd Brydeinig|Reilffordd Brydeinig ym 1948. Ar ôl preifateiddio’r rheilffyrdd yn y 1990au, daeth yr orsaf yn eiddo i Railtrack ac wedyn Network Rail.
21ain ganrif
Nottingham Express Transit
Agorwyd tramffordd ym Mawrth 2004, ac oedd Gorsaf reilffordd ei therminws deheuol, ar Heol yr orsaf, yn defnyddio hen draphont Rheilffordd y Great Central dros yr orsaf a’r gamlas. Mae adeilad yno’n cynnwys ardal aros, lifft a grisiau i’r heol islaw a phont i deithwyr, yn arwain at yr orsaf reilffordd. Mae 2 blatfform, gyda le i 3 thram.[10]
Mae’r tramffordd yn mynd yn ogleddol o’r orsaf trwy ganol y ddinas. Yn 2012, dechreuodd waith i estyn y tramffordd i’r De, at Lôn Toton a De Clifton.
Ailddatblygu
Datgelwyd cynllun i ailddatblygu’r orsaf gan Norman Baker, aelod y llywodraeth, ar 5 Hydref 2010.[11][12][13] Buasai adeiladau rhestredig yr orsaf yn cael eu adnewyddu, deiladid platform ychwanegol, mwy o siopau, a phont ar gyfer y tramiau.
Cost yr ailwampu oedd tua £60 miliwn; £41 miliwn oddi wrth Network Rail, £14.8 miliwn oddi wrth Cyngor Dinas Nottingham, £2.1 miliwn o’r Gymdeithas Ddatblygu’r Canolbarth Dwyreiniol, £1.6 miliwn o’r cymni Trenau’r Canolbarth Dwyreiniol a hanner miliwn o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffordd.
Cynllun yr orsaf
Appwyntiwyd Building Design Partnership i fof yn ymgynghorwyr yn 2001[14][15] yn defnyddio’r tîm sy wedi datblygu Gorsaf Reilffordd Piccadilly, Manceinion am gost o tua £550,000. Cost ran cyntaf y cynllun oedd £99,960[16] a lansiwyd y cynllun ar 19 Gorffennaf 2002. Disgwylwyd ail ran y cynllun i gostio £59,940.63.[17]
Gofynnwyd i Tuffin Ferraby Taylor i arolygu rhannau’r orsaf adeiladwyd cyn 1918. Yn ogystal â gorsaf tramiau, roedd cynteddfa ychwanegol yn rhan o’r cynllun[18] a phlatfform ychwanegol pan oedd angen.
Maes Parcio
Adeiladwyd maes parcio aml-lefel newydd rhwng platfform 6 a Heol y Frenhines, dros hanner gorllewinol y maes parcio presennol, gan Vinci Construction.[19][20]. Dechreuwyd gwaith ym Mawrth 2011; agorwyd y maes parcio’n swyddogol ar 14 Mai 2012[21] Gohiriwyd gwaith ar y maes parcio yn 2008 ar ôl cwynion am y cynllun. Ailddechreuodd gwaith ar ôl newidiadau ym mis Rhagfyr 2008.[22][23] Mae gan y maes parcio 5 llawr[24] gyda lle i 950 o geir[25]
Adnewyddu
Paratowyd cynlluniau’n costio £19 miliwn yn 2007 a £14 milliwn yn 2008. Derbynwyd adnewyddu a gwaith ar signalau’n costio £11.6 miliwn ar 15 Mai 2009 gan Fwrdd Byddsoddi Network Rail.[26] a gwnaethpwyd y gwaith rhwng 1 AEbrill 2009 a 31 Mawrth 2014.[27] Caewyd yr orsaf yn rhannol dros gyfnod o 10 wythnos yn 2013 i weithio ar y cledrau a signalau.[28]; caewyd pen gorllewinol yr orsaf dros gyfnod o 37 diwrnod, a’r pen dwyreiniol am 10 diwrnod.[29] Trowyd platfform 4 yn 2 blatfform gwahanol.[30] Caniatawyd symudiad yn y 2 gyfeiriad ar y 4 trac ar ben gorllewinol yr orsaf. Mae’r traciau gogleddol yn cyfeirio at Sheffield a Mansfield a’r rhai deheuol at Derby a Leicester.
Pont droed
Dros ganol y platfformau, mae pont droed yn mynd o Hel yr Orsaf a’r tramiau, uwchben platfformau 1-5 ac yn terfyn ar blatfform 6 a’r safleodd parcio ar Heol y Frenhines.[31]
Mae’r bont yn cario llwybr 28, rhan o “Trent Bridge Footway” rhwng canol y ddinas a Phont Trent.
Pont newydd a safle tram
Penderfynwyd y dylai’r cledrau tram yn croesi’r orsaf lle oedd yr hen Great Central, caewyd ers 1973.[32] Dechreuwyd gwaith ar 10 Ebrill 2012, ac roedd y bont yn ei lle erbyn Mai 2013. Enw y bont yw ‘Pont Cyfeillgarwch Karlsruhe’; mae Karlsruhe’n gyfeilldref i Nottingham.[33] Adeiladwyd safle tram newydd ar y bont, yn disodlu’r un ar Heol yr Orsaf, ar 27 Gorffennaf 2015. Terminws deheuol y rhwydwaith tramiau oedd y safle hon hyd at agor ail ran y cynllun, ac wedyn daeth tramiau drwodd i Chilwell a Clifton.[34]
Cyfleusterau
Mae’r cledrau a phlatfformau yn cyfeirio o’r gorllewin i ddwyrain; Mae Heol yr Orsaf i’r gogledd a Ffordd y Frenhines i’r De. Mae prif fynedfa i’r orsaf a sawl siop ar Heol Carrington. Mae grisiau, lifft a grisiau symudol yn arwain at y platfformau. Mae’r safle tram uwchben yr orsaf. Mae maes parcio aml-lefel yn dal tua 800 o geir, ac mae le i tacsis o dan y maes parcio.[35].
Platfformau
Mae dau blatfform rhwng dau bâr o draciau, yn ddigon hir i ddal trenau 15 cerbyd, a phlatfform arall ar ochr yr orsaf, sy’n dal 4 cerbyd.[36]