Mae gorsaf reilffordd Llanymddyfri (Saesneg: Llandovery railway station) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref farchnad Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Mae'r orsaf yn gorwedd ar reilffordd Calon Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru.
Hanes
Agorwyd yr orsaf fel terminws ei changen o Landeilo ym 1858 gan Reilffordd Cwm Tawe. Llogwyd y reilffordd gan Reilffordd Llanelli, sydd wedi dod yn rhan o Reilffordd y Great Western. Wedyn daeth Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin trwy’r dref, yn cysylltu Gorsaf reilffordd Craven Arms a Gorsaf reilffordd Victoria, Abertawe.