Terminws a phencadlys Rheilffordd Llangollen yw gorsaf Reilffordd Llangollen.
Hanes
Roedd Llangollen yn orsaf ar Reilffordd Llangollen a Chorwen a agorwyd ar 8 Mai 1865, ac aeth trenau trwy'r orsaf ar eu ffordd o Riwabon i Abermaw. Ym 1896 daeth y reilffordd rhwng Rhiwabon a Corwen yn rhan o'r Rheilffordd y Great Western.
Caewyd y lein rhwng Rhiwabon, Y Bala ac Abermaw i deithwyr ar 18 Ionawr 1965, a chaewyd y rheilffordd yn gyfan gwbl ar 1 Ebrill 1968.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol