Mae gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl (Saesneg: Liverpool Lime Street railway station) yn orsaf reilffordd yn ninas Lerpwl yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'r orsaf yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962[1]. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.[2]
Cyfeiriadau