Lleolir gorsaf reilffordd Holland Arms ar linell Rheilffordd Ganolog Ynys Môn o Gaerwen i Amlwch. Mae'r orsaf wedi ei lleoli ym Mhentre Berw ac fe'i gelwid yn "Holland Arms" oherwydd y gwesty adnabyddus oedd a'r un enw yn y pentref. Fe wasanaethodd hefyd fel cyffordd llinell gangen Traeth Coch o 1908 ymlaen.
Mae'n rhan o Lein Amlwch (Rheilffordd Ganolog Môn) sef rheilffordd 17.5 milltir (28 cilomedr) sy'n cysylltu Amlwch a Llangefni gyda Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yng Ngaerwen.
Erbyn hyn mae'r orsaf wedi cau. Caeodd y lein i deithwyr ym 1964, ac i draffig nwyddau ym 1993.