Adeiladwyd gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Glasgow (Gaeleg yr Alban: Sràid na Banrighinn, Saesneg: Glasgow Queen Street) ym 1842, yn derminws i Reilffordd Caeredin a Glasgow, yn gwasanaethu gogledd a dwyrain yr Alban, gan gynnwys Caeredin, Aberdeen ac Inverness. Enw gwreiddiol yr orsaf oedd Heol Dundas.[1] Wrth adael yr orsaf, mae'r lein yn dringo'n serth i Cowlairs, ac roedd angen injan stêm disymud i dynnu trenau i fyny hyd at 1909.[2]
Ailadeiladwyd ac ehangwyd yr orsaf gan Reilffordd Gogledd Prydain rhwng 1878 a 1880. Agorwyd gorsaf Heol y Frenhines (Lefel Isel) o dan y rheilffordd wreiddiol ym 1886. Mae trenau'n mynd o Helensburgh i Airdrie.[1]
Caewyd gorsaf Heol Buchanan ym 1966, a throsgwyddodd ei threnau i Heol y Frenhines, yn cynyddu pwys ar orsaf Heol y Frenhines.[3]
Mae maint y safle'n gyfyngedig gan dwnnel syth o flaen yr orsaf; rhaid i drenau fod yn fyr (6 cherbyd ar y mwyaf).[3]
Cyfeiriadau
Dolen allanol